Ganwyd 4 Ionawr 1801 yn y Winllan, Llanbrynmair, mab Richard Williams ('cynghorwr' gyda'r Methodistiaid Calfinaidd) a Mary Williams (un o ddisgynyddion Henry Williams, Ysgafell, a chwaer y Parch. John Roberts, Llanbrynmair), a brawd hynaf y Parch. Richard Williams, Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol ei ewythr (uchod) ac yn ysgol William Owen, Trallwng. Dychwelodd gartref i'r Wig i helpu ei dad ar y ffarm ac ym musnes melinydd gwlanenni. Daeth i feddiant o ychydig dai a thir a ffatri wlanenni yn Bont Dolgadfan, a symudodd yno tua 1822. Am gyfnod daliai'r swyddi o glerc festri, goruchwyliwr cynorthwyol, a chofrestrydd y plwyf. Bu'n briod dair gwaith - (1) 1828, ag Anne Evans, Minffordd; (2) 1834, â Mary Morris, Dolgwyddyl, Trefeglwys (o linach Elystan Glodrydd); (3) 1845, â Mary Evans, Tynllwyn, Llanbrynmair. Bu iddo 10 o blant - ef oedd tad Richard Williams, Celynog, Drenewydd. O 1823 ymlaen ceid darnau barddonol o eiddo 'Gwilym Cyfeiliog' yn aml yn Y Dysgedydd, Goleuad Cymru, Y Drysorfa, Seren Gomer, a'r Gwyliedydd. Yr oedd ei awdl ar 'Sefydliad Coleg Dewi Sant' yn ail yn eisteddfod Caerfyrddin, 1823, pryd yr enillodd 'Daniel Ddu o Geredigion' y brif wobr. Enillodd y wobr yn eisteddfod Llanfaircaereinion yn 1826 am 'Englynion i'r Wybren Sernog.' Rhagorai fel cyfansoddwr ar y mesurau caethion, a chyfrifid ef yn englynwr da. Y mae ei emyn, 'Caed trefn i faddau pechod yn yr Iawn' yn adnabyddus, ac fe'i cyfieithiwyd yn iaith brodorion Bryniau Khasia. Bu farw 3 Mehefin 1876 ym Mhont Dolgadfan, Llanbrynmair. Cyhoeddwyd casgliad o'i weithiau yn 1878 o dan y teitl Caniadau Cyfeiliog gan ei fab, Richard Williams, Drenewydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.