Ganwyd yn Bontdolgadfan, Llanbrynmair, mab William Williams ('Gwilym Cyfeiliog'). Addysgwyd ef yn ysgolion Llanbrynmair a'r Drenewydd ac yn academi'r Bala (o dan ofal Dr. Lewis Edwards a John Parry). Yna gweithiodd yn swyddfeydd y cyfreithwyr David Howell, Machynlleth, 1851-6, ac Abraham Howell, Trallwng, 1856-69; fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr yn 1866. Symudodd i'r Drenewydd yn 1869 ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu'n briod ddwywaith - (1) â Frances Brown (2) ag Elizabeth Lewis, y Rhyl. Bu'n flaenor ffyddlon yng nghapel y Crescent. Daliai amryw o swyddi cyhoeddus ac ef oedd trefnydd yr ymgeisydd Rhyddfrydol, Stuart Rendel, a etholwyd yn aelod seneddol yn 1880 - yr aelod Rhyddfrydol cyntaf mewn cof dros Sir Drefaldwyn. Cyhoeddodd Montgomeryshire Worthies, 1884; ail arg. 1894 ; History of the Parish of Llanbrynmair, 1889, ac erthyglau ar hanes a hynafiaeth ei sir enêdigol. Golygodd The Royal Tribes of Wales, 1887, gyda nodiadau llawn o'i waith ei hun; Caniadau Cyfeiliog, 1878, a'r Mabinogion mewn Cymraeg hen a diweddar (cyhoeddwyd gan Isaac Foulkes 1880). Cyfieithodd Draethodau Bacon yn Gymraeg, 1862. Cyfrannodd i Bye-Gones a'r Geninen. Yr oedd yn un o sylfaenwyr y Powysland Club ac yn gydolygydd y Transactions and Records. Casglodd lyfrgell werthfawr ac ar ei farw fe'i pwrcaswyd trwy garedigrwydd y diweddar arglwydd Davies o Landinam, a'i throsglwyddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel un o'r casgliadau sylfaenol o dan yr enw 'Celynog Collection.' Bu farw 15 Mehefin 1906 Drenewydd, 'yn 71 oed.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.