Ganwyd 23 Mawrth 1812 yn Bersham, ond yn 1824 symudodd ei rieni i Fanceinion. Anfoddhaol oedd yr ysgolion yr aeth iddynt yn blentyn; ac yn wyneb Seisnigrwydd amgylchedd ei febyd, ni thyfodd yn Gymreigiwr da cyn mynd i'r Bala. Prentisiwyd ef i ddwy grefft, a dilynai ddosbarthiadau nos yn y Mechanics Institute ym Manceinion; yno cymerth at fathemateg a gwyddoniaeth gyda'r fath sêl fel y cafodd drafferth ddirfawr i gael caniatâd i ddechrau pregethu; yn wir, derbyniodd Lewis Edwards ef i Goleg y Bala cyn iddo gael y caniatâd hwn. Aeth i'r Bala yn 1838. Rhwng 1841 a 1843 bwriodd dymhorau (bylchog, yn herwydd prinder arian) ym Mhrifysgol Edinburgh. Yn 1843, dewiswyd ef gan Lewis Edwards yn ail athro yn y Bala, a bu yno weddill ei oes. Rhoes ei waith fel athro o flaen popeth; anfynych y bodlonai i bregethu ond yng nghylch y Bala, a chafwyd trafferth fawr i gael ganddo sgrifennu i'r Traethodydd pan gychwynnwyd hwnnw. Fel athro, ni bu neb mwy cydwybodol; nid ymddengys fod ynddo unrhyw wreiddioldeb, ond ymboenai gyda'r gwannaf o'i fyfyrwyr, ac odid nad oedd yn fwy cymeradwy gan y cyfangorff ohonynt na Lewis Edwards ei hunan - ond y mae'n debyg fod cyfiawnder ym marn J. Cynddylan Jones ei fod yn gwneud gormod o'r gwaith drostynt, ac mai Lewis Edwards oedd y gorau ar eu gwir les. Ordeiniwyd ef yn 1845, a bu'n llywydd y gymdeithasfa yn y Gogledd yn 1866. Priododd yn 1844 â Sarah Gee, chwaer y cyhoeddwr Thomas Gee. Pan gychwynnodd Gee Y Gwyddoniadur, yn 1853, perswadiodd John Parry i'w olygu; a'i gysylltiad â'r gwaith hwnnw (serch iddo farw ymhell cyn ei orffen) a'i gwnaeth yn enw cenedlaethol; yr oedd y gorchwyl o olygu gwaith o'r fath yn hollol gydnaws â'i anian ac â'i gydwybodolrwydd. Dadfeiliodd ei iechyd yn gyflym o 1865 ymlaen, a bu farw 19 Ionawr 1874.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.