Ganwyd 27 Chwefror 1841 yn Capel Dewi, Sir Aberteifi. Bu am ryw hyd yn ddisgybl yn ysgol John Evans yn Aberystwyth. Penodwyd ef a John Rhys yn ddisgybl athrawon yn ysgol elfennol Penllwyn, am na fedrai'r prifathro yno ddewis rhyngddynt. Bu'n cadw ysgol ei hun dros gyfnod yn agos i safle'r cloc yn nhre Aberystwyth. Darpar ymgeiswyr am y weinidogaeth, bechgyn ieuainc â'u bryd ar lwyddo mewn masnach, a morwyr oedd ei ddisgyblion yno.
Daeth yn drwm dan ddylanwad diwygiad 1859 ac yn fuan wedyn symudodd i Lundain. Yno bu dylanwad Owen Thomas a David Charles Davies yn symbyliad iddo a naturiol oedd iddo gael ei dueddu at y weinidogaeth. Hwyrfrydig fu'r Methodistiaid Calfinaidd i'w gydnabod, ac fel myfyriwr lleyg y cafodd fynediad i goleg y Bala yn 1864. Er hynny ni phetrusodd groesi cleddyfau ar bwnc athrawiaeth yr Iawn â'r prifathro, Lewis Edwards. Derbyniwyd ef i goleg Trefeca yn 1865 ac ar derfyn ei gwrs yn 1867 derbyniodd alwad i eglwys Saesneg M.C., Pontypŵl. Yno priododd, ond nid oedd ei gyflog yn ddigon i gynnal teulu, er iddo ymhel â newyddiaduraeth i wella'i amgylchiadau, a throes ei wyneb eilwaith tua'r brifddinas. Yn 1869 cymerodd ofal eglwys Annibynnol Offord Road, Pentonville, ac ar ôl hynny bu'n weinidog ar eglwys yr Annibynwyr yng nghapel Bedford, Charrington Street, fel olynydd i Thomas Jones. Byddai Robert Browning ac Alfred Tennyson yn gwrando arno yn achlysurol. Yn y Congregational Year Book am 1875 disgrifir ef fel 'late Bedford Chapel '.
Yr oedd wedi dechrau ar ei weinidogaeth yn eglwys Saesneg M.C. Frederick St., Caerdydd, ar 15 Tachwedd 1874. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf llwyddodd yn eithriadol, ond yn raddol dygodd i mewn i'r gwasanaeth nifer o ddefodau a ffurfiau'r Eglwys Esgobol. Achosodd hynny (1880) gyffro ymhlith yr aelodau, a'r diwedd (1888) fu iddo ymddiswyddo. Yn dilyn hynny, rhwng 1887-1889, ymddangosodd nifer o erthyglau miniog o'i eiddo yng ngholofnau'r Western Mail o dan yr enw ' Non Con Quill ' yn beirniadu ac yn gwawdio rhai o sefydliadau a dynion amlwg y genedl.
Bu'n ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yn y de o 1887 i 1909, ac enillodd sylw mawr fel pregethwr yn yr eglwysi Cymraeg. Yr oedd yn weithiwr dyfal a chyson. Bu'n llywydd y gymdeithasfa yn y De (1894), yn Ddarlithydd Davies (1896), ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol (1901). Aeth ar daith bregethu i America yn 1912.
Tra'n weinidog ymhlith y Saeson cyhoeddodd nifer o esboniadau a dynnodd sylw eithriadol, megis Studies in Matthew, Luke, John, Acts, The Epistles of Peter, a hefyd Eternal Truth in the Eternal City sef esboniad ar y Rhufeiniaid. [Nid yw Luke yng nghatalogau Ll.G.C. na'r B.M. fel un o'i gyfres o Studies ]. Cyhoeddodd yn Gymraeg esboniadau ar Efengyl Ioan, y Philippiaid, Yr Epistol at y Colossiaid, cyfrol o bregethau, Athrylith a Gras, Cysondeb y Ffydd (mewn pedair cyfrol), a Primeval Revelation (Darlith Davies), sef astudiaethau ar wyth bennod gyntaf Genesis. Cydolygodd ag Edward Matthews Cofiant … J. Harris Jones.
Bu'n briod deirgwaith a gadawodd fab o'i briodas gyntaf, E. Norman Jones, a fu'n athro yn y coleg diwinyddol yn Aberystwyth. Bu farw 15 Mehefin 1930.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.