Ganwyd 7 Chwefror 1796, ym Mlaen Plwyf, plwyf Llanychaiarn, Sir Aberteifi. Gwehydd oedd ei dad a dilynodd yntau yr un alwedigaeth nes blino ohono ar y gwaith a cherdded i Lundain pan oedd yn 17 oed i chwilio am waith mwy wrth ei fodd. Yno cynhaliodd ei hun drwy werthu llyfrau o ddrws i ddrws. Daeth o dan adain David David, cydwladwr a thiwniwr offer cerdd, a thrwy ei gymorth ef gosodwyd Evans mewn ysgol a gedwid gan Griffith Davies, y cyfrifydd enwog. Gwnaeth gynnydd mawr yno mewn mathemateg.
Ar ôl bod yn cadw ysgolion yn Llanfair Caereinion a Llanidloes, dychwelodd i Aberystwyth oddeutu 1821 (neu'n gynharach, gan y dywed ei garreg fedd iddo fod yn ysgolfeistr am 44 mlynedd) i agor ei ysgol enwog, ' The Mathematical and Commercial School,' yn Chalybeate Street, lle y câi ieuenctid y cylch addysg ymarferol ganddo am dros 40 mlynedd. Ymhlith ei ddisgyblion yr oedd Lewis Edwards, Henry Richard, David Charles Davies a ' Ieuan Gwyllt ' (John Roberts). Pan fu Lewis Edwards yn cadw ysgol yn Aberystwyth nid ystyriai hi'n 'gyd-ymgeisydd' ond yn 'ymbaratoad' i ysgol Evans. Ystyrid hi yn ysgol enwog am ddysgu morwriaeth. Yr oedd Evans yn dra hyddysg hefyd mewn seryddiaeth, a meddai ddawn arbennig i ddyfeisio deialau haul ac offerynnau peiriannol.
Priododd 14 Mai 1821, yn eglwys S. Mihangel, Gwen Mason (1796 - 1834), o blwyf Llanbadarn Fawr. Yn 1858 anrhegwyd ef gan drigolion Aberystwyth a thysteb am gadw cloc ar gyfer y dref. Bu'n flaenor yn Tabernacl, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Aberystwyth, am 14 mlynedd. Bu farw 2 Ebrill 1861.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.