Ganwyd ym Mai 1803 yn Nhywyn, Meirionnydd. Ymunasai ei dad â'r fyddin a bu'n dal swydd ynddi yn amser y rhyfel yn Sbaen. Gydag un John Jones, Pen-y-parc, ysgolfeistr nodedig, yr addysgwyd ef nes bod yn 13 oed, pryd yr aeth i Lundain yn glerc mewn swyddfa cyfreithiwr, ac yno manteisiodd ar bob cyfle i'w ddiwyllio'i hun. Oherwydd afiechyd gorfu iddo ddychwelyd oddi yno i Dywyn. Yn 1823 aeth i gadw ysgol i Llanfihangel-y-pennant. Dechreuodd bregethu tua'r un adeg ac yn 1824 symudodd i ofalu am ysgol yn Llwyngwril a gwasnaethu eglwysi y cylch; yn 1826 daeth i ardal Bethel ger y Bala a oedd yn rhan o faes Michael Jones. Yng Ngorffennaf 1827 urddwyd ef yn weinidog yn Llandrillo, gan barhau yn ysgolfeistr. Yn y cyfnod hwn daeth i'r amlwg fel gweinidog, llenor, a diwygiwr pybyr. Yn ystod ei weinidogaeth adeiladwyd capelau Llandrillo, Rhydywernen, Llandderfel, a Soar (Godre Caereini). Pregethai deirgwaith y Sul a cherdded rhyw 20 milltir, heb sôn am ei waith yn ystod yr wythnos. Yn 1833 sefydlodd gymdeithas 'Gwŷr ieuaingc Penllyn ac Edeyrnion' er hyfforddi ieuenctid y cylch yn egwyddorion Ymneilltuaeth a Rhyddfrydiaeth, a chyhoeddodd Catecism yr Ymneillduwr gan roi'r pwyslais yn bennaf ar bwnc cyswllt yr Eglwys a'r wladwriaeth. Cyn hyn ychydig o sôn a fuasai am y mater yng Nghymru nac yn Lloegr. Erlidid ef yn dost oherwydd ei ddaliadau, a phasiwyd penderfyniad mewn cymdeithasfa yn annog pobl i ochelyd y rhai a lefarai yn erbyn 'yr awdurdodau' a sefydliadau y wlad, gan gyfeirio'n ddiamnau at Hugh Pugh. Ni syflodd oddi ar ei lwybr a chydnabyddid ef yn un o brif arweinwyr Rhyddfrydiaeth yn y Gogledd. Ysgrifennai erthyglau yn gyson i'r Dysgedydd. Yn y cyfnod hwn hefyd y cyhoeddodd Drych y Cymunwr ar gyfer cymunwyr ieuainc, a Hawl a chymhwysder dyn i farnu drosto'i hun. Yn 1837 symudodd i Fostyn ac yno drachefn bu yr un mor ymroddgar, a chafodd wŷr o gyffelyb anianawd yn gymdogion, sef ei ragflaenydd ' Gwilym Hiraethog ' a symudasai i Ddinbych, a ' Scorpion ' yn Nhrelawnyd ('Newmarket'). Ym Mostyn y cychwynnodd Dyddiadur yr Annibynwyr. Bregus fu ei iechyd yn ei flynyddoedd olaf a gwnaed dwy dysteb iddo, y naill ym Mostyn yn 1851 a'r llall yn Llandrillo yn 1867. Bu farw 23 Rhagfyr 1868 a chladdwyd ef ym mynwent Seion, ger Holywell. Ni chyfrifid ef yn bregethwr dawnus, ond cydnabyddid ef ar bob llaw yn ŵr o athrylith ac arweinydd diofn ar faterion crefyddol a gwladol. Fel llenor yr oedd yn feistr ar arddull nodedig o gain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.