Ganwyd yn Heol y Dyffryn, Dinbych, 29 Tachwedd 1800. Fel ei dad, Richard Griffith, oriadurwr a gwneuthurwr clociau ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn wr cadarn ei gorff, ac fel pregethwr lleyg (Wesleaidd) (1827-94) cerddodd droeon i'w deithiau Sul 30 o filltiroedd - cerddodd i ben yr Wyddfa, ôl a blaen, pan oedd yn 84. Dywed: 'Penodwyd fi yn Archdderwydd … yn y fl. 1860; ond yn Eisteddfod Wrexham, yn y flwyddyn 1876 y cefais fy nhrwyddedu yn Archdderwydd Gorsedd … Beirdd Ynys Prydain' (Yr Eurgrawn, 1895, 127). O 1860 i 1894 ni chollodd ond un (Caerfyrddin) o'r eisteddfodau hyn. Mewn eisteddfod leol (Llanerchymedd, 1835) y dechreuodd ei gwrs hir fel beirniad, ac efe oedd bardd swyddogol eisteddfod Aberffraw yn 1849. Bu'n 'arwain' yn 'eisteddfodau'r Clerigwyr,' ac yn y 'genedlaethol' yn gyson. Bu'n cydgystadlu â 'Bardd Nantglyn' droeon, a rhoddwyd iddo fedal arian am gyfieithiad gwych o 'Deserted Village' (Goldsmith) mor gynnar â 1827. Allan o 86 o ymgeiswyr am ddau englyn i'w cerfio ar gofgolofn Owen Williams, y Waenfawr, ei eiddo ef a wobrwywyd. O'i holl englynion cyhoeddedig ei gampwaith yn y gynghanedd ydyw ei linellau pert i'r llwynog. Yn eisteddfod Bangor, Medi 1890, daeth i'w ran i urddo brenhines Roumania â'r enw 'Carmen Sylva,' a'r dydd yn dilyn croesawyd hi gan gorfforaeth Llandudno, 'Clwydfardd' yn ei chyflwyno. Yn eisteddfod Caernarfon 1894 (blwyddyn ei farw) urddwyd tywysog a thywysoges Cymru ganddo, y naill â'r enw 'Iorwerth Dywysog,' a hithau 'Hoffedd Prydain.' Diogelodd urddas yr Orsedd a chadwodd y cysylltiad rhyngddi â'r eisteddfod yn ddilwgr. Yn 1890 rhoddes y Llywodraeth iddo rodd o £200. Bu farw 30 Hydref 1894.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.