WILLIAMS, OWEN ('Owain Gwyrfai ' 1790 - 1874), hynafiaethydd

Enw: Owen Williams
Ffugenw: Owain Gwyrfai
Dyddiad geni: 1790
Dyddiad marw: 1874
Priod: Margaret Williams (née Lloyd)
Plentyn: Thomas Williams
Rhiant: Siân Pritchard (née Marc)
Rhiant: William Pritchard
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Griffith Thomas Roberts

Ganwyd mewn bwthyn o'r enw Bryn-beddau ar dir Plas Glan'rafon, Waun Fawr, a bedyddiwyd ef yn Betws Garmon ar 10 Ionawr 1790. Ei rieni oedd William Pritchard, Pant Ifan Fawr, Llanrug, a Sian Marc, Plas Mawr, Llandwrog. Priododd Owen Williams yn ieuanc gyda Margaret Lloyd, merch Pen-y-bryn, Llanwnda, ac aethant i fyw i Tu-ucha'r-ffordd, Waun Fawr. Dyn byr, ysgafn o gorff, gydag wyneb crwn a phryd golau ydoedd. Cerddai yn fân ac yn fuan gan grymu ychydig, ac ni welid ef byth heb ffon. Cowper oedd wrth ei alwedigaeth, a bu'n gweithio i wneuthur berfâu i'w gwerthu i berchennog chwarel Dinorwig cyn iddynt ddechrau defnyddio gwagenni yn y chwarel. Bu'n ddisgybl i 'Dafydd Ddu Eryri' pan gadwai'r gŵr hwnnw ysgol yn y Waun Fawr, Betws Garmon, a 'Dafydd Ddu' oedd ei athro barddol hefyd. Awdl 'Owain Gwyrfai' ar 'Barwn Richards' a ddyfarnwyd yn orau yn eisteddfod y Cymreigyddion a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1824. Ef a olygodd y bywgraffiad i Peter Williams a gyhoeddwyd yn 1817, ac yn 1820 cyhoeddodd Caniad Solomon ar fesur cerdd. Yn y blynyddoedd ar ôl 1830 rhoddodd lafur mawr i gynhyrchu Geirlyfr Cymraeg, a chyhoeddodd ef yn 45 o rannau swllt yr un. Dechreuodd gyhoeddi Y Drysorfa Hynafiaethol, a daeth pedair o rannau ohoni allan o'r wasg. Yn 1847 cyhoeddodd lyfr hanner coron yn dwyn y teitl Hanes y deg erledigaeth o dan Rufain Babaidd. Erys llawer o'i waith mewn llawysgrifau, fel y rhai a ganlyn, sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol : Cwrtmawr MS 188B , casgliad o farddoniaeth Gymraeg yn llawysgrif Owen Williams : Cwrtmawr MS 90C , cywyddau Cadwaladr Cesail a Morys Dwyfach wedi eu codi gan Owen Williams; Cwrtmawr MS 149E , 'Piser Hir' Owain Gwyrfai yn cynnwys casgliad o farddoniaeth wedi ei godi gan mwyaf o Peniarth MS 98 ; yn Cwrtmawr MS 407E ceir casgliad o achau o'i waith ef ac 'Eben Fardd' ac yn Cwrtmawr MS 456D ceir casgliad arall o achau o waith Owen Williams ei hunan. Bu farw yn Fron-heulog, Waun Fawr, 3 Hydref 1874, a chladdwyd ef ym mynwent Betws Garmon. Casglodd 'Ioan Arfon' a chyfeillion eraill £50 i gael cof-golofn ar ei fedd a dadorchuddiwyd honno ar 7 Mawrth 1879. Yn 1904 cyhoeddodd ei fab, Thomas Williams, ei hanes a pheth o'i waith yn Gemau Gwyrfai , ac yn 1911 drachefn cyhoeddodd gyfrol arall, Gemau Môn ac Arfon, yn cynnwys ysgrifau ar faterion hynafiaethol a barddoniaeth a godasai Owen Williams o hen lawysgrifau. Bu Owen Williams yn ddiwyd iawn yn ystod ei oes faith o 84 mlynedd, ond nid oedd wedi cael hyfforddiant ar gyfer llawer o'r hyn a geisiai ei wneuthur. Y mae ei gofnodion am yr hyn a ddigwyddodd yn ei gyfnod ef ei hun yn werthfawr ac y mae llawer o'r llythyrau a gasglodd a'r cofnodion a wnaeth yn ddiddorol i'w darllen heddiw. Yr oedd Owen Williams yn aelod gyda'r Wesleaid yn 1829, ond ymunodd yn bur fuan â'r 'Wesle Bach.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.