MORGAN, RICHARD WILLIAMS (‘Môr Meirion’; c. 1815 - c. 1889), clerigwr ac awdur

Enw: Richard Williams Morgan
Ffugenw: Môr Meirion
Dyddiad geni: c. 1815
Dyddiad marw: c. 1889
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Nansi Ceridwen Jones

Ganwyd yn Llancynfelin, Sir Aberteifi, c. 1815, yn nai i John Williams, archddiacon Aberteifi. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-pont-Steffan. Bu'n gurad Mochdre, Sir Drefaldwyn, o 1842 i 1853 a churad parhaol Tregynon yn yr un sir o 1842 i 1862. Symudodd oddi yno i Loegr lle bu mewn amryw fywiolaethau. Yr oedd yn amlwg gyda'r eisteddfod a Gorsedd y Beirdd. Ysgrifennodd y llyfrau canlynol: Maynooth and St. Asaph, 1848; Verities of the Church, 1849; Ida de Galis. A Tragedy of Powys Castle, 1851; Vindication of the Church of England, 1851; Raymonde de Monthault, The Lord Marcher, 1853; Christianity and Modern Infidelity, 1854 (ail arg., Efrog Newydd, 1859); Scheme for the Reconstruction of the Church Episcopate and its patronage to Wales, 1855; North Wales or Venedotia, 1856; The British Kymry or Britons of Cambria, 1857 — cyfieithwyd hwn yn Gymraeg gan John Williams (‘Ab Ithel’), fel Hanes yr Hen Gymry, eu Defodau a'u Sefydliadau, 1858 (ail arg., Efrog Newydd, 1860); Amddiffyniad yr Iaith Gymraeg, 1858; St. Paul in Britain or the Origin of the British as Opposed to Papal Christianity (ail arg., 1880); Correspondence and Statements of Facts connected with the case of Morgan and the Bishop of St. Asaph. Awgrymir 1876 fel dyddiad ei farw yn NLW MS 9267A (200), ond yn ôl Crockford, Clerical Directory, 1889 (893), yr oedd yn gurad yn sir Huntingdon hyd 1888.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/