Ganwyd yn Ystrad Meurig, 11 Ebrill 1792, mab John Williams, 1745/6 - 1818) a Jane ei wraig. Bu dan addysg yn ysgol ei dad yno, ac yna aeth yn athro i Chiswick, ger Llundain. Ar ôl ail ysbaid mewn ysgol yn Llwydlo, ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Balliol, 30 Tachwedd 1810. Graddiodd yn 1814, wedi ennill y clod uchaf yn arholiad y clasuron; bu am bedair blynedd yn athro yn ysgol Winchester, ac yna yn ysgol Hyde Abbey, yn yr un gymdogaeth. Yn ystod y cyfnod hwn derbyniasai urddau eglwysig, ac yn 1820, wedi marw Eliezer Williams, cafodd gynnig bywoliaeth Llanbedr-Pont-Steffan gan yr esgob Burgess. Derbyniodd hi, a pharhau'r gwaith gwych a gychwynnwyd yn yr ysgol gan ei ragflaenydd. Er na ddewiswyd ef yn brifathro cyntaf Coleg Dewi Sant, anfonwyd ato nifer o ddisgyblion o'r Alban, ac yn eu plith fab Syr Walter Scott. Yn 1823, bu farw ei frawd David, a ddilynasai eu tad yn brifathro Ystrad Meurig, ond ni ddewiswyd John Williams i lanw'r swydd hon chwaith. Eithr yn 1824 dewiswyd ef yn brifathro cyntaf yr Edinburgh Academy, ysgol glasurol newydd yn y ddinas honno, a dechreuodd ar ei waith yno 1 Hydref. Bu llwyddiant mawr ar ei waith yno; ac er iddo dderbyn cadair athro Lladin ym Mhrifysgol Llundain, Awst 1827, a chilio ohoni naw mis yn ddiweddarach, ail-etholwyd ef i'w swydd yn Edinburgh, a bu yno hyd 1847. Yna sefydlwyd ysgol Llanymddyfri, a gwahoddwyd John Williams (a fuasai'n archddiacon Ceredigion er Hydref 1833 - ail sefydlwyd ef yn Awst 1835 oherwydd anghaffael technegol) i fod yn brifathro cyntaf y sefydliad hwnnw. Dechreuodd ar ei waith Ddydd Gŵyl Dewi, 1848, a bu yno nes iddo orfod ymddeol oherwydd afiechyd, Pasg 1853. Erbyn hynny enillasai'r ysgol enw anrhydeddus iddi ei hun. Bu John Williams yn byw yn Brighton, Rhydychen, a Bushey, swydd Hertford; bu farw yno, 27 Rhagfyr 1858, a'i gladdu yn yr un lle, 4 Ionawr 1859. Priododd â Mary, unig ferch Thomas Evans o Lanilar, a bu iddynt chwech o ferched. Cyfrifir John Williams yn un o'r ysgolheigion clasurol disgleiriaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Yr oedd hefyd yn ôl pob tystiolaeth, yn athro dan gamp. Mae darlun ohono yn ei hen ysgol yn Edinburgh, a chopi o gerflun ohono (oni symudwyd ef yn ddiweddar) yng Ngholeg Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar bynciau clasurol (gweler y rhestr yn D.N.B.); ac yn 1851 argraffiad o Drych y Prif Oesoedd (Theophilus Evans).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.