DAVIES, EVAN (‘Myfyr Morganwg’; 1801 - 1888), bardd ac archdderwydd

Enw: Evan Davies
Ffugenw: Myfyr Morganwg
Dyddiad geni: 1801
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac archdderwydd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

Ganwyd 6 Ionawr 1801 yng Nghorneldy, Pencoed, sir Forgannwg. Dywedir na chafodd ysgol, ond ymroes yn ei ieuenctid i feistroli celfyddyd cerdd dafod, a hefyd i astudio mathemateg a llawer pwnc arall. Ar y cyntaf, fe'i galwai ei hun yn ‘Ieuan Myfyr,’ a dechreuodd bregethu yng nghapeli'r Annibynwyr yng nghymdogaeth ei gartref. Daeth i'r amlwg yn 1842 wrth ddadlau â John Jones, Llangollen, mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llantrisaint ar bwnc dirwest. Tua 1844-5 ymsefydlodd ym Mhontypridd fel oriadurwr, ac yn y dref honno y bu ei gartref o hynny ymlaen; yno y cymerodd yr enw ‘Myfyr Morganwg.’

Effeithiwyd arno gan y chwiw dderwyddol, a darllenodd lu o lyfrau ar grefyddau'r Dwyrain. Credai nad oedd Cristnogaeth namyn Derwyddiaeth mewn gwisg Iddewig. Felly, ac yntau'n honni iddo etifeddu swydd yr archdderwydd wedi marw Taliesin Williams, mab Iolo Morganwg, yn 1847, dechreuodd tua 1853 gynnal gwasanaethau crefyddol, derwyddol, wrth y ‘Maen Chwyf’ ym Mhontypridd. Cyfarfyddid ar y pedwar ‘alban’, a pharhaodd hyn fel un o brif hynodion Morgannwg (er mawr ofid i weinidogion parchus y cylch) am tua chwarter canrif. Cyhoeddodd amryw lyfrau yn ymdrin â Derwyddiaeth. Eto ystyrid ef gan lawer o'i gyfoeswyr yn gryn awdurdod ar hanes a hynafiaethau, ac ef oedd un o'r gwyr a benodwyd i feirniadu'r traethodau ar y ‘Madogwys’ yn eisteddfod Llangollen yn 1858.

Bu farw yn ei gartref ym Mhontypridd ar 23 Chwefror 1888. Ceir rhai o'i lawysgrifau yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ac y mae rhai llythyrau a yrrodd at Thomas Stephens a Jonathan Reynolds yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/