Ganwyd 10 Ebrill 1801 yn Tan yr Ogof, ger Abergele. Bu'n gweithio fel mwnwr a glowr nes symud ohono i Langollen i fod yn ysgrifennydd i Syr Watkin Williams-Wynn. Daeth i amlygrwydd i ddechrau fel areithiwr ar ddirwest, ac ef oedd ysgrifennydd cymanfa ddirwestol fawr yng Nghaernarfon yn 1837 a 'Williams o'r Wern' yn gadeirydd iddi. Yn 1839 symudodd i Rosllannerchrugog ac ymunodd â'r Annibynwyr ac yno y dechreuodd bregethu. Daeth wedyn i'r maes fel dadleuwr ac ysgrifennydd ar fedydd. Bu dadl gyhoeddus rhyngddo a gweinidog Rhymni, dadl a ddaeth i'w hadnabod fel ' Dadl Fawr Rhymni.' Yn Hydref 1842 urddwyd ef yn weinidog eglwysi Rhydybont, Capel Nonni, a Brynteg, Sir Aberteifi. Ni fu dim llewyrch ar ei waith fel gweinidog gan mor amddifad oedd o ddawn y weinidogaeth. Aeth ati i gyhoeddi llyfrau yn Rhydybont, a symudodd at yr un gorchwyl i Ferthyr Tydfil ac oddi yno drachefn i Aberpennar; yn y lle hwnnw dechreuodd adeiladu capel i ryw ychydig a ymlynai wrtho, ond cyn ei orffen, yn 1854, dihangodd i America gan eu gadael mewn helbul mawr. Bu farw yn Cincinnati 19 Tachwedd 1856 wedi gyrfa ramantus a llawn cythrwfl.
Gŵr o alluoedd diamheuol ond hynod o ddi-ddal. Gallai lunio cân yn fedrus a daeth ei gân ' Deio Bach ' yn adnabyddus iawn. Ymhlith ei weithiau ceir: Y Bedyddiwr, 1842; Adroddiad o'r Ddadl ar Fedydd yn Rhymni rhwng T. G. Jones a J. Jones o Langollen …, 1841; Brad y Drôch, 1841; Catecism Bedydd, 1842; Adroddiad Dadl Llantrisant, 1842; Testament yr Ysgol Sabothol, 1849; Y Seren Foreu, 1846.
Brawd iddo oedd Daniel Jones, 1811 - 1861, y Mormon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.