ROWLAND, THOMAS (1824-1884), clerigwr a gramadegydd

Enw: Thomas Rowland
Dyddiad geni: 1824
Dyddiad marw: 1884
Priod: Elizabeth Helen Rowland (née Williams)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a gramadegydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Llanfor 5 Mehefin 1824 yn fab i lafurwr ar stad y Rhiwlas. Tynnodd ei alluoedd sylw Cleaver, rheithor-segur y plwyf, a thynnodd hwnnw ef allan o siop yn y Bala lle'r oedd yn gweini, a'i anfon at John Williams, ficer Rhos-y-gwalia, i'w addysgu at fod yn athro ysgol. Ond wedi bwrw tymor byr yng ngholeg hyfforddi Chelsea, dymunai Rowland gael ei urddo, ac aeth i ysgol Llanymddyfri dan yr archddiacon John Williams. Gwnaeth yn dda iawn yno; cyn y diwedd yr oedd yn athro Cymraeg yn yr ysgol, ac yn 1853 cyhoeddodd ei ramadeg Cymraeg. Urddwyd ef yn 1854; ac wedi bod yn gurad yn Llansantffraid Glyn Dyfrdwy ac yn Llanrwst, rhoes yr esgob Short iddo, yn yr ysbaid hynod fyr o ddwy flynedd, reithoraeth Pennant-Melangell a Phenybont-fawr — ac yn 1878 ficeriaeth Rhuddlan. Bu farw yno 17 Ebrill 1884. Gŵr ‘bychan, eiddil, llwyd’ oedd Rowland. Serch iddo gyhoeddi yn 1875 gyfrol o bregethau, fel awdur A Welsh Grammar, a aeth i bedwar argraffiad (1853, 1857, 1865, 1876), y cofir ef — ychwanegodd yn 1870 gyfrol o Welsh Exercises. Am gyfnod maith, hwn oedd ein gramadeg safonol, a thystiodd John Morris-Jones (gan nodi hefyd ei wendidau) fod ynddo ‘swm mawr o wybodaeth sownd … ynghylch Cymraeg diweddar,’ a'i fod ‘yn arwydd o ddychweliad synnwyr cyffredin ar ôl teyrnasiad Pughe.’ Yr oedd Rowland hefyd, am 10 mlynedd cyn ei farw, yn ‘gywirwr’ enwau lleoedd Cymraeg ar fapiau'r ‘Ordnance Survey’ — yma, ysywaeth, mynnodd eirio'r enwau yn ôl ei synnwyr bawd, yn lle ymofyn bob tro beth oedd ffurfiau hanesyddol hynaf yr enwau. Cafodd ei weddw

ELIZABETH HELEN (ELLEN),

(ferch William Williams, ficer Llanrhaeadr) yr un swydd o 1884 hyd 1889, a'r un yw'r feirniadaeth ar ei gwaith hithau. Dan y ffugenw ‘Helen Elwy’ ymgeisiodd hi am wobr yr eisteddfod genedlaethol am eiriadur bywgraffyddol Cymreig, a chyhoeddodd yn 1907 A Biographical Dictionary of Eminent Welshmen, 1700-1900. Bu farw ym Mae Colwyn, a chladdwyd yn Rhuddlan ar 11 Ebrill 1910, yn 72 oed.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/