Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd, Uchtryd, i Edwin ap Gronw (gor-or-ŵyr Hywel Dda) ac Iwerydd, hanner-chwaer Bleddyn ap Cynfyn. Serch i Owain gynorthwyo yr iarll Hugh o Gaer yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn Gwynedd yn 1098, priododd Angharad, ei ferch, â Gruffydd ap Cynan. Gronw ei fab, oedd tad Christina, ail wraig Owain Gwynedd. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd yn Owain ab Edwin, eithr o linach tywysogion Deheubarth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.