ADAM (bu farw 1181), esgob Llanelwy

Enw: Adam
Dyddiad marw: 1181
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Edward Lloyd

Pan bwyswyd yn 1175 ar Godfrey, a fuasai i ffwrdd yn hir o'i esgobaeth (a oedd bellach o dan reolaeth y Cymry), i ddychwelyd, fe ddewisodd yn hytrach ymddiswyddo. Llanwyd ei le trwy ddewis Adam, Cymro a fu'n astudio yn ysgolion Paris ac a ddyrchafesid yn ganon yn yr eglwys gadeiriol yno; fe'i cysegrwyd yn Westminster gan yr archesgob Richard, 12 Hydref. Oherwydd peth tebygrwydd yng ngyrfa'r ddau, bu i amryw ysgrifenwyr, hen a diweddar, ei gyfrif yr un gŵr â'r ysgolor adnabyddus, Adam du Petit Pont, a oedd yntau yn ganon ym Mharis ac yn ei ddydd yn ddiwinydd a dadleuwr enwog. Ond ni ellir cysoni hyn â'r adroddiad a rydd Gerallt Gymro; dywed ef i Adam yr esgob ac yntau fod yn gyd-efrydwyr ym Mharis, y naill a'r llall ohonynt heb fod yn wŷr cefnog a'r Adam arall eisoes yn ganon ym Mharis ac yn amddiffynnydd uniongrededd yn 1147, sef tua'r adeg y ganed Gerallt. Yn wir, os gellir credu John o Salisbury, Sais ydoedd Adam du Petit Pont ('Anglicus noster').

Nid hir y bu'r esgob newydd cyn manteisio ar ei dras Cymreig i hyrwyddo buddiannau ei esgobaeth yng nghanolbarth Cymru. Mewn amseroedd a fu, cyfrifasid y rhanbarth rhwng Gwy a Hafren yn rhan o Bowys; ymddangosai marw David, esgob Tyddewi, ym mis Mai 1176, yn gyfle i'w chael yn ôl i'r esgobaeth ogleddol. Penderfynodd Adam ddechrau gydag eglwys Ceri a oedd ar y gororau, a gofynnodd am gymorth yr awdurdodau lleol, yn lleygwyr a gwŷr eglwysig. Eithr golygai hyn anwybyddu archddiacon -newydd-ei-ddewis Aberhonddu, neb llai na'r gŵr cryf hwnnw - Gerallt Gymro. Cyfarfu'r ddau wrthwynebydd yng Ngheri, a bu gornest yno, y naill a'r llall yn esgymuno'i gilydd. Yn ôl yr archddiacon, i ran yr esgob y disgynnodd dynnu'n ôl yn benisel; y mae un peth yn sicr, sef i Geri yn y pen draw aros yn rhan o esgobaeth Tyddewi.

Nid oes ragor o hanes Adam mewn cysylltiad â'i esgobaeth. Treuliodd lawer o'i amser yn Lloegr; bu mewn cynadleddau brenhinol yng ngwanwyn 1177, ac yn 1179 yr oedd yn y Lateran Council, lle y bu'n amddiffyn ei hen feistr, Peter Lombard, yn erbyn Walter o S. Victor. Bu farw yn abaty Osney yn 1181.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.