Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Mab John Beadles, Kempston, swydd Bedford, ac Elizabeth, aeres Walter Jenkins, Pant, Crynwr. Priododd Anne Handley yn 1699. Cyfieithodd yn Gymraeg draethawd a ysgrifenasid gan ei daid, Walter Jenkins, yng ngharchar Trefynwy, ac a enwid 'The law given forth out of Zion …', a chyhoeddwyd y cyfieithiad yn Amwythig, c. 1715, o dan y teitl Y gyfraith a roddwyd allan o Sion.
Ysgrifennodd hefyd ragair i atebion Theodor Eccleston i Thomas Andrews, ficer Llanofer, a ysgrifenasai am Grynwyr at un o'i blwyfolion yn Pontypwl. Anfonodd hanes dechreuad achos y Crynwyr yn Ne Cymru i'r 'Meeting for Sufferings' yn Llundain, 21 Awst 1720.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.