JENKINS, WALTER (bu farw 1661), Crynwr

Enw: Walter Jenkins
Dyddiad marw: 1661
Plentyn: Elizabeth Beadles (née Jenkins)
Rhiant: Thomas Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym mhlas y Pant, Llanfihangel-ystern-llewern, sir Fynwy, yn fab i Thomas Jenkins, perchen y plas a rheithor y plwyf (bu farw 1649). Ymunodd â'r Crynwyr, a noda George Fox iddo gyfarfod ag ef mewn cynhadledd yn sir Leicester yn 1655. Yn 1657, pan ymwelodd Fox â Deheudir Cymru, bu gyda ' Justice Jenkins ' (yr oedd yn ustus heddwch) yn cynnal cyfarfod mewn eglwys yn rhywle rhwng Aberhonddu a Phontypŵl. Bu'n rhaid iddo ddioddef am ei broffes; ddiwedd Ionawr 1660 cyrchwyd ef allan o'i wely a'i gloi mewn 'hen gastell'; drannoeth aethpwyd ag ef i Drefynwy, a chynnig llw iddo; gwrthododd yntau, a charcharwyd ef yn Nhrefynwy. Bu farw 30 Mai 1661, meddai'r garreg ar ei fedd yn y gladdfa a roes ef i'r Crynwyr ar dir y Pant. Cynhaliwyd moddion yn y Pant am faith flynyddoedd - hyd ddiwedd y 18fed ganrif. Bu'r ty'n ddiweddarach ym meddiant yr hynafiaethydd J. A. Bradney.

Gadawodd Walter Jenkins ferch, â briododd a Chrynwr o'r enw John Beadles. Mab iddynt hwy oedd ELISHA BEADLES (1670 - 1733?), apothecari ym Mhontypŵl. Yr oedd Jenkins wedi sgrifennu llyfr, yn 1660, The Law given forth out of Zion …, a gyhoeddwyd yn 1663. Cyfieithodd yr ŵyr ef yn Gymraeg, a'i gyhoeddi yn 1715, Y Gyfraith a roddwyd allan o Zion …, arg. gan Thomas Durston yn Amwythig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.