BEDO AEDDREN (fl. c. 1500), bardd

Enw: Bedo Aeddren
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Idwal Lewis

Trigai yn Aeddren, ger Llangwm Dinmael, sir Ddinbych, a sonia ef ei hun am Langwm a Dinmael yn ei waith. Ceir amrywiaeth yn y llawysgrifau ynglŷn ag enw ei drigfan - Aerddrem, Aurdrem, Eurdrem, Oerddrym. Y mae'n debyg iddo hefyd ddal neu etifeddu ffarm Coed y Bedo, ger Aeddren. Dywaid rhai mai brodor o Lanfor, Meirionnydd, ydoedd.

Yr oedd yntau, fel Bedo Brwynllys, yn ddilynydd i Dafydd ap Gwilym fel bardd, a chanodd ganeuon serch yn y dull traddodiadol. Cymysgir gwaith Brwynllys ac yntau yn fynych yn y llawysgrifau, ac y mae'n amhosibl penderfynu pa un ohonynt yw gwir awdur aml ddarn. Claddwyd ef, meddir, yn Llanfor, Meirionnydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.