BERWYN, RICHARD JONES (1836 - 1917), arloeswr a llenor

Enw: Richard Jones Berwyn
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1917
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd yng Nglyndyfrdwy, ei gyfenw bedydd yn Jones. Aeth i Lundain yn ifanc – fe'i rhestrir yn fyfyriwr yng ngholeg hyfforddi athrawon Borough Road yn 1852 – ac oddi yno i Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau. Ef oedd un o'r ddau a atebodd wahoddiad y Parch. Michael D. Jones ynglyn ag ymfudo i Batagonia. Daeth drosodd i Gymru, ac aeth i'r Wladfa Gymreig gyda'r fintai gyntaf yn 1865. Mabwysiadodd y cyfenw ' Berwyn ' yno. Wedi colli Twmi Dimol (cyfaill ' Ceiriog ') ar y llong Denby yn 1867, priododd Berwyn â'i weddw, a magwyd nifer o blant talentog ar ei aelwyd.

Ef oedd y cyntaf i ddal amryw swyddi yn y Wladfa : ysgrifennydd y cyngor, ysgrifennydd y llysoedd Cymraeg, postfeistr, cofrestrydd, ac athro ysgol. Ef oedd y postfeistr cyntaf dan Lywodraeth Ariannin yno hefyd, a phenodwyd ef yn ysgrifennydd personol i'r prwyad cyntaf a ddaeth yno i gynrychioli'r Llywodraeth. Bu yng ngharchar yn 1882-3 am ei arweiniad dros hawliau'r Cymry.

Golygodd a chyhoeddodd Y Brut, misolyn gwladfaol mewn llawysgrif yn y flwyddyn 1868. Cyhoeddodd Gwerslyfr i Ddysgu Darllen Cymraeg yn 1878, gyda chymorth Thomas Pugh, bachgen o Landderfel. Hwn oedd y llyfr cyntaf i'w argraffu yn y Wladfa, a'r llyfr Cymraeg cyntaf i'w argraffu yn Neheudir Amerig; cyhoeddwyd ailargraffiad ohono wedi ei ddiwygio a'i helaethu yn 1881. Cyhoeddodd almanaciau gwladfaol yn flynyddol hyd 1905. Ceir ysgrif, ' Gwib i Chili,' o'i law yn Cymru (O.M.E.), 1905. Arferai arwyddo ei holl waith llenyddol nid â'i enw, ond â llun llaw. Bu farw Ddydd Nadolig 1917.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.