Ganed yng Nglyn Eithinog, Glyn Nedd, Morgannwg, mab John ac Elizabeth Beynon. Yn 1815 symudodd y tad a'r fam a saith o blant i fyw i Merthyr Tydfil. Cafodd Rosser ychydig addysg yn ysgol George Williams, ond aeth i weithio i'r gwaith haearn yn 8 oed, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno.
Dechreuodd ymddiddori mewn cerddoriaeth yn ieuanc, a thrwy lafurio yn galed i'w ddiwyllio ei hunan daeth yn gerddor da. Yn 1835 penodwyd ef yn arweinydd y canu yng nghapel Annibynwyr Soar, Merthyr. Casglodd y bobl ieuainc at ei gilydd, a sefydlodd ddosbarth i ddysgu cerddoriaeth, a darnau cerddorol a thonau newydd. Ystyrid ef yn arweinydd canu rhagorol, a llafuriodd yn ddyfal i wella a choethi canu cynulleidfaol. Yn 1836 ysgrifennodd 'Sylwadau Perioriaethol' i'r Diwygiwr, ac wedi hynny amryw ysgrifau eraill ar gerddoriaeth. Efe hefyd oedd golygydd y tonau yn y cylchgrawn. Yn 1845 dug allan Rhan I casgliad o donau ac anthemau, dan yr enw Telyn Seion, a'r holl rannau yn un llyfr yn 1848. Ceir yn y casgliad 20 o donau o'i waith, ac ynddo am y tro cyntaf yr ymddangosodd y tonau 'Eifionydd' a 'Groeswen' o waith John Ambrose Lloyd. Dyma'r casgliad cyntaf y ceir rhifnodau amser y metronom wrth y gerddoriaeth. Perfformiodd amryw o weithiau cyflawn gyda'i gôr.
Yr oedd yn feirniad craff a chymeradwy, a bu'n gwasanaethu yn eisteddfodau De a Gogledd Cymru. Bu farw 3 Ionawr 1876, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Cefn, Merthyr Tydfil.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.