Ar ôl i'r esgob Hervé gael ei symud, bu bwlch yn hanes yr esgobaeth; ni chydnabuwyd un esgob gan Gaergaint hyd 1120. Yn y flwyddyn honno ysgrifennodd Gruffydd ap Cynan, a oedd yn awr ar delerau da â'r brenin, at yr archesgob yn ei hysbysu ddarfod dewis gŵr o'r enw David ganddo ef a chan glerigwyr a phobl Cymru, a chyda chaniatâd y brenin, ac yn gofyn am iddo gael ei gysegru. Caniatawyd y cais ac ar 4 Ebrill cysegrwyd yr esgob newydd yn Westminster wedi i'r archesgob yn gyntaf ei fodloni ei hun ynglŷn â'i deilyngdod a chael ganddo broffesu ufudd-dod.
Y mae'r dystiolaeth ynghylch tras yr esgob yn gymysglyd. Dywed croniclydd yr 'Annals of Worcester' ei fod yn Gymro, a byddai hynny'n naturiol. Ond yn ôl William o Falmsbri nid neb amgen na 'David the Scot' ydoedd, y gŵr a ysgrifennodd hanes ymgyrch yr ymherodr Harri (neu Heinrich) V hyd Rufain yn 1111. Ni ellir, ar hyn o bryd, gysoni'r ddau wrthddywediad hyn.
Ychydig a adroddir am weithredoedd David. Bu yn Lambeth yn 1121 a 1125, yng Nghaergaint hefyd yn 1125, ac yn y Cyngor yn Westminster yn 1127. Yn gynnar ar ôl cael ei gysegru rhoes ganiatâd i symud creiriau Dyfrig ac Elgar Feudwy o Ynys Enlli. Yr oedd wrth wely marw Gruffydd ap Cynan yn 1137, ac ni fu ef ei hunan fyw yn hir ar ôl y tywysog hwnnw, oblegid cyflwynwyd ei olynydd ym Mangor, sef Meurig, i'r brenin yn 1139 fel gŵr etholedig yr esgobaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.