BLEDRI ap CYDIFOR (fl. 1116-30), pennaeth

Enw: Bledri ap Cydifor
Rhiant: Cadifor Fawr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Edward Lloyd

Rhoes y Normaniaid ofal castell Robert Courtemayn gerllaw Caerfyrddin arno yn ystod gwrthryfel y Cymry yn 1116 - yn Abercywyn yr oedd y castell, efallai. Yn y ' Pipe Roll ' o dan y flwyddyn 1130 cyfeirir ato fel ' Bledericus Walensis ' ag arno ddyled o bunt am i'w wŷr ladd brodor o Fflandrys a marc yn dâl yn lle gwasanaeth milwrol. Dengys llyfr copiau dogfennau priordy Caerfyrddin i ' Bledericus,' rywbryd rhwng 1129 a 1134, roddi i'r mynachdy bedair cyfran o dir ('four carucates' yn Saesneg) yn Eglwys Newydd - Newchurch yn awr. Yn y cofnod hwn gelwir y rhoddwr yn 'Latemeri,' h.y. lladmerydd, disgrifiad sy'n cadarnhau'r dybiaeth ei fod yn Gymro o bwys yn y cylch hwn ac ar delerau da â'r goresgynnwr. Bu ei ddisgynyddion yn dirfeddianwyr dylanwadol yn y cylchoedd hyn am ganrifoedd; fe'u ceid yn Cil Sant, Pwll Dyfach, Motlysgwm, a Phictwn.

Y mae Bledri yn enw anghynefin, a naturiol ydyw gwneuthur y gwr mawr o Gaerfyrddin yr un un â'r ' Bledhericus ' y disgrifia Gerallt Gymro ef fel rhamantwr enwog a fuasai farw ychydig yn gynt. Y mae'n sicr fod yr iaith Norman-Ffrangeg yn cael ei siarad yn rhwydd gan un a wasanaethai fel lladmerydd rhwng y ddwy genedl. Eler gam ymhellach ac nid annaturiol - er na dderbynnir hyn gan yr holl awdurdodau - a fyddai canfod yn un gwr y ' Breri ' a ystyrir yn awdurdod, oddeutu'r flwyddyn 1160, gan awdur y rhamant Ffrengig Trystan, a'r ' Bleheris ' a geir mewn fersiwn gynnar o ystoria Perceval (Peredur).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.