Mab i Lucien (a nai i Napoleon) Bonaparte. Ganwyd ar y 4 Ionawr 1813 yn Thorngrove, Worcestershire, Lloegr, ac yn Lloegr y bu hyd y flwyddyn 1848, pryd y dychwelodd i Ffrainc lle y gwnaed ef ar ôl y chwyldro yn ddirprwy dros Corsica (28 Tachwedd). Pan ddiddymwyd yr etholiad hwnnw, fe'i hetholwyd ym Mehefin 1849 yn ddirprwy dros Seine. Eisteddodd ar y ddeau yn y Gymanfa Ddeddfwriaethol ond ni chymerodd ran uniongyrchol yn 'coup d'état' ei gefnder yn Rhagfyr 1850. Enwodd Napoleon III ef yn seneddwr ac yn dywysog, ond nid ymddiddorodd nemor mewn gwleidyddiaeth yn ystod yr Ail Ymerodraeth, ac ar ôl cyhoeddi'r Drydedd Weriniaeth yn 1870 ymneilltuodd i Loegr lle yr ymroddodd i astudio ieitheg. Ei brif bwnc oedd iaith y Basgiaid, ond astudiodd yr ieithoedd Celtaidd hefyd, a chyhoeddodd astudiaethau ar dreigliadau cytseiniaid ar ddechrau geiriau; gweler yn arbennig Initial Mutations in the Living Celtic, Basque, Sardinian, and Italian Dialects, 1885.
Yn ei feddiant ef yr oedd yr unig gopi a gadwyd o lyfr Morys Clynog, Athravaeth Gristnogavl, ac y mae Cymru yn ddyledus iddo nid yn unig am alw sylw at y copi hwnnw eithr hefyd am ei drawslythrennu i'r Cymmrodorion a chaniatáu iddynt ei gyhoeddi yn 1880.
Bu farw 3 Tachwedd 1891.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.