BRADFORD, JOHN (1706 - 1785), gweydd a phannwr a lliwydd

Enw: John Bradford
Dyddiad geni: 1706
Dyddiad marw: 1785
Plentyn: Richard Bradford
Rhiant: Richard Bradford
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweydd a phannwr a lliwydd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Griffith John Williams

Mab gwr o'r enw Richard Bradford, a drigai yn y Pandy ym Metws Tir Iarll ym Morgannwg. Yn ôl traddodiad y teulu, daeth y Bradfordiaid i'r Betws o Bradford-on-Avon yn hanner cyntaf yr 17eg ganrif. Yr oedd ganddynt bais arfau.

Ychydig a wyddom am hanes John Bradford, ond y mae'n eglur iddo yn ei ieuenctid ddechrau rhoddi sylw i'r traddodiadau barddol Cymraeg ac i'r gwaith o gasglu llawysgrifau. Y mae llawer o bethau'n awgrymu iddo gael gafael ar rai o lyfrau Poweliaid Tir Iarll. Heblaw hyn, yr oedd yn gyfarwydd â gweithiau beirdd a beirniaid llenyddol Lloegr, a dywedir fod ei gasgliad o lyfrau Saesneg gan y teulu yn y ganrif ddiwethaf. Ef oedd un o'r ffigurau pwysicaf yn hanes yr adfywiad llenyddol ym Mlaenau Morgannwg yn hanner cyntaf y 18fed ganrif. Er hynny, ychydig o'i weithiau barddonol sydd ar glawr, ac nid oes ryw lawer o gamp arnynt.

Gohebai â William Wynn, Llangynhafal, a Lewis Morris, ac fe'i hetholwyd yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion yn Llundain. Enillodd enw iddo ei hun hefyd fel rhesymolwr, ac er na wyddom mo'r manylion, gellir casglu ei fod yn ymddiddori yn y dadleuon diwinyddol a nodweddai'r cyfnod. Yr oedd 'Iolo Morganwg' yn un o'i ddisgyblion, ac wedi iddo farw yn 1785 lluniodd 'Iolo' bob math o straeon am ei ddysg ac am ei gysylltiad â'r gyfundrefn orseddol, dderwyddol, ddwyfundodaidd, a ffynnai drwy'r canrifoedd, meddai ef, ym Morgannwg, ac yn arbennig yn Nhir Iarll. A mynnai mai yn ei lawysgrifau ef y cawsai afael ar lawer iawn o'i ffugiadau. Felly, dylem anwybyddu popeth a ddywedir amdano yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf. Yn ôl dyddiadur William Thomas (1727 - 1795), (Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1949, 47), claddwyd Bradford ar 6 Mehefin 1785, 'yn 80 oed'. Bu'r teulu byw yn y Betws hyd yn gymharol ddiweddar.

Wedi ei ddydd ef, bu Richard, ei fab, yn gweithio fel gwehydd a phannwr. Yr oedd ganddo weithiwr o'r enw David James, gwr gweddol amlwg yn hanes Undodiaeth yn y cylch, a phriododd hwn nith i Richard. A'i orwyres ef ydoedd gwraig y diweddar John Kyrle Fletcher, y llyfrwerthwr o Gasnewydd-ar-Wysg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.