Ganwyd 17 Ebrill 1809 yn 61 King Street, Caerfyrddin, yn fab i David a Mary Brigstocke. Pan oedd yn 16 oed anfonwyd ef i ysgol ddarlunio Sass yn 6 Charlotte Street, Bloomsbury, Llundain. Wedi hynny bu'n astudio o dan H. P. Briggs a J. P. Knight cyn treulio wyth mlynedd ym Mharis, Fflorens, Rhufain, a Naples. Yn 1847 treuliodd rai misoedd yn yr Aifft lle y paentiodd bortreadau o Fehemet Ali ac amryw o'i deulu.
Priododd Mrs. Cridland, gwraig weddw, a fu farw o'i flaen ef, a bu ei unig blentyn farw yn ieuanc. Bu ef ei hun farw 11 Mawrth 1881 yn 3 Welbeck Street, Cavendish Square, Llundain, a chladdwyd ef yn Kensal Green.
Cofir amdano'n fwyaf arbennig oherwydd y nifer o bortreadau ganddo o hen deuluoedd adnabyddus De Cymru ac o gymeriadau milwrol ei oes. Paentiodd hefyd amryw o ddarluniau hanesyddol. Dangoswyd 16 o'i ddarluniau yn y Royal Academy yn Llundain rhwng 1843 a 1865, ac yn 1845 gwahoddwyd ef i ddangos ei bortread o'r Cadfridog Nott i'r frenhines Victoria.
Y mae darluniau gan Brigstocke ar gael heddiw mewn casgliadau preifat yng Nghymru a Lloegr ac mewn adeiladau cyhoeddus megis y National Portrait Gallery a'r Oriental Club yn Llundain, ac yn neuadd tref Gaerfyrddin a neuadd tref Llanelli. Ceir hefyd ysgythriadau o'i waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Brydeinig, ac yn yr Arts Library, South Kensington.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.