BROWN, JAMES CONWAY (1838 - 1886), cerddor

Enw: James Conway Brown
Dyddiad geni: 1838
Dyddiad marw: 1886
Rhiant: James Brown
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Cerddoriaeth; Perfformio
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 27 Rhagfyr 1838 yn Blaenau, sir Fynwy, mab James Brown, un o berchenogion y Blaina Iron Works ar y pryd, a maer Casnewydd-ar-Wysg yn 1853, 1860, a 1861. O ochr ei dad yr oedd yn ŵyr i'r Richard Brown y bu cysylltiad rhyngddo ym Merthyr Tydfil â Richard Trevithick a'i beiriant, ac o ochr ei fam yn ŵyr i James Conway, gwaith haearn Pontrhydyrynn, sir Fynwy.

Wedi iddo fod yn y Camberwell Collegiate School ac yn King's College, Llundain, rhoddwyd James Conway Brown i ddysgu gwaith meistr gwaith haearn yn yr Ebbw Vale Iron Works o dan ei ewythr, Thomas Brown, pen rheolwr y gwaith hwnnw. Rhoes fwy o sylw i gerddoriaeth nag i'r gwaith haearn, ac fe'i ceid yn cymryd rhan mewn cyngherddau - yn canu'r ffidil neu'r piano. Chwaraeai ar yr organ mewn lleoedd o addoliad ac wedi iddo ddyfod yn swyddog yn y Monmouthshire Rifle Volunteers byddai'n aml yn chwarae ym mand seithfed fataliwn y gwirfoddolwyr hynny. Yn 1861 aeth i'r Millwall Ironworks, Llundain, eithr ar gerddoriaeth yr oedd ei fryd o hyd.

Dewiswyd ef yn organydd eglwys Aldershot yn 1869, yn organydd eglwys Hale, gerllaw Fanham, yn 1875, ac i swydd gyffelyb yn eglwys Farnham ei hunan yn 1879. Cystadleuai mewn eisteddfodau gan ennill am anthem, caneuon, a rhanganau - e.e. yn Caerfyrddin a Rhuthyn; enillodd am anthem yn eisteddfod genedlaethol 1886. Ychydig cyn hynny yr oedd wedi cyhoeddi ei sonata yn E major i ffidil a phiano y dyfarnesid iddo wobr Syr Michael Costa yn Trinity College of Music, Llundain, o'i phlegid. Bu farw 26 Ebrill 1908.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.