Ganwyd yn Castellau, Llantrisant, Morgannwg, 1 Chwefror 1832, mab i Daniel Bryant, Efailisaf, Llantrisant. Dysgwyd ef i ganu'r delyn gan Llewelyn Williams (' Alawydd y De '), a bu o dan ei ddisgyblaeth am ddwy flynedd. Yr oedd yn chwaraeydd medrus ar y delyn bedal, a gwasanaethodd mewn llawer o eisteddfodau a chyngherddau yn Neheudir Cymru, ac fel beirniad mewn rhai eisteddfodau. Trefnodd amrywiadau i'r delyn ar ' Merch Megan.'
Bu farw 5 Ionawr 1926, a chladdwyd ef ym mynwent y Tabernacl, Efailisaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/