O Gelynnin, ger Conwy, yn ôl Siôn Edwart, ond o'r Coleg yn nhre Conwy yn ôl ei dystiolaeth ei hun (Llanstephan MS 15 , t. 37). Y dyddiad cyntaf a geir amdano yw 1666; canodd i un o deulu Gwydir yn 1674, a chanodd lawer i deulu Mostyn ac un gân i Thomas Mostyn ar adeg y Calan, 1678. Ni cheir dyddiad pendant arall ar ôl 1689, pan ganodd gywydd marwnad i Thomas Jones, sywedydd, Corwen. Bu farw y flwyddyn ganlynol, 1690 (Llanstephan MS 15 , t. 34).
Mae llawer o'i waith ar gael, yn cynnwys 24 englyn, ar wahân i'w gyfieithiadau i'r Gymraeg o waith Horas a Seneca a chywydd marwnad i John Hookes o Gonwy, a briodolir iddo ond a ysgrifennwyd dros William Fychan yn ôl rhai llawysgrifau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.