CARNES, EDWARD (1772? - 1828), argraffydd a llyfrwerthwr yn Nhreffynnon, Sir y Fflint.

Enw: Edward Carnes
Dyddiad geni: 1772?
Dyddiad marw: 1828
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: argraffydd a llyfrwerthwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: William Llewelyn Davies

Y mae'n debyg mai tua mis Mehefin 1796 y dechreuodd argraffu; efallai ei fod yn llyfrwerthwr cyn hynny - gweler amlen Y Geirgrawn. Y mae gwaith crefftwr i'w weld yn ei argraffiad ef, 1823, o Blodeu-Gerdd Cymry David Jones. Yn 1828 yr oedd ei swyddfa yn Whitford Street a'i frawd (?), William Carnes, yn rhwymo llyfrau tua'r un adeg yn Well Street. Bu Edward Carnes farw 25 Mai 1828 o dwymyn, yn 58 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.