Y mae profion y cydnabyddid ef fel pregethwr cyn yr Adferiad yn 1660, ond heb ei neilltuo'n swyddogol at y gwaith; lluddiwyd ef rhag pregethu o gwbl ('silenc'd' yw gair Calamy) cyn Deddf Unffurfiaeth 1662, neu o dan dermau'r Ddeddf honno. Yr oedd iddo gyswllt agos â Mawdlam yn ymyl Margam, ac yno y clywir amdano gyntaf; cafodd ef a Lewis Alward o Gynffig eu cyhuddo, ill dau, dan ddeddfau Clarendon o gylch 1664; yn 1672 cafodd Christopher drwydded i bregethu yn nhŷ Alward yng Nghynffig. Enwir ef gan Henry Maurice yn 1675 fel un o henuriaid athrawol eglwys Cilfwnwr (Tirdoncyn). Dywed cofnodion yr eglwys honno iddo farw ar 31 Mai 1690.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.