Ganwyd ym Machen, Mynwy, yn 1750. Cafodd dröedigaeth dan weinidogaeth William Edwards; ymunodd ag eglwys y Groeswen yn 1769 a dechreuodd bregethu. Symudodd i Gasbach tua 1776, a daeth i gyswllt â Blanche Evans, Llaneurwg, a'i cyflwynodd i sylw David Jones, Llan-gan, a'r seiat yno. Bu'n offeryn i sefydlu tri achos Methodistaidd, sef Casbach, Llaneurwg, a'r Morfa. Bu farw yn 1828. Gof ydoedd wrth ei alwedigaeth. Yr oedd yn hynod am ei bregethau gwreiddiol, byw, a cherddodd gymaint â hanner can milltir ambell Saboth i'w gyhoeddiad rhag colli ei waith ar y Sadwrn a'r Llun.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/