Ganwyd yn Cornholme, gerllaw Todmorden, 19 Tachwedd 1847, mab William Crowther ac Anne Pickulls. Addysgwyd ef yn ysgolion Cornholme a Todmorden a'r Coleg Normal, Bangor. Cyn cyrraedd ei 20 oed fe'i penodwyd yn brifathro ysgol Rhydlewis; Sir Aberteifi. Priododd, 19 Tachwedd 1869, Sarah Lloyd. Yn Rhydlewis y dysgodd siarad a darllen Cymraeg a'i galluogodd i nyddu penillion ar fro ei fabwysiad a bywyd a phobl yr ardal honno. Bu yn Rhydlewis am 23 mlynedd. Yn 1890 symudodd i Fethesda, Arfon, i fod yn brifathro ysgol y Cefnfaes. Wedi ymneilltuo o waith ysgol, symudodd i Gaerdydd, ac oddi yno i Solfach, Sir Benfro, lle y bu farw 14 Chwefror 1928; claddwyd ef ym mynwent Hawen ar lannau Ceri. Ymddiddorai mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth, ac yn ychwanegol at ei waith fel bardd ysgrifennodd ddarnau o gerddoriaeth i gylchgronau Cymraeg, ac ymddangosai carol Nadolig o'i waith ef a'i gyfaill L. J. Roberts, arolygydd ysgolion, yn gyson. Fel Rhyddfrydwr selog cymerodd ran amlwg yn etholiadau Sir Aberteifi, ac ysgrifennodd ganeuon poblogaidd ar gyfer etholiadau. Cyhoeddwyd detholiad o'i waith, Ar Lannau Ceri, yn 1930.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.