ROBERTS, LEWIS JONES (1866 - 1931), arolygydd ysgolion, cerddor, ac eisteddfodwr

Enw: Lewis Jones Roberts
Dyddiad geni: 1866
Dyddiad marw: 1931
Priod: Mary Noel Roberts (née Griffiths)
Rhiant: Margaret Roberts (née Jones)
Rhiant: Lewis Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arolygydd ysgolion, cerddor, ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Addysg; Eisteddfod; Cerddoriaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 29 Mai 1866 yn Aberaeron, Sir Aberteifi, mab Lewis Roberts a'i wraig Margaret (Jones). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan (B.A.) a Choleg Exeter, Rhydychen (M.A.); yr oedd yn aelod o Gymdeithas Dafydd ab Gwilym pan oedd yn Rhydychen. Priododd, 1888, Mary Noel Griffiths merch capten a Mrs. Griffiths, Old Bank, Aberaeron; bu iddynt dair merch a chwe mab. Bu'n ddarlithydd am gyfnod yn ei hen goleg yn Llanbedr-Pont-Steffan - hanes oedd y pwnc y rhoesai sylw arbennig iddo yn Rhydychen - ac yna daeth yn un o arolygyddion ysgolion yng Nghymru, yn Aberystwyth i gychwyn ac yna yng ngogledd Cymru (gan fyw yn y Rhyl ac, yn ddiweddarach, yn Llandudno); maes o law fe'i trosglwyddwyd i Sir Forgannwg, a bu'n byw am tua saith mlynedd yn Abertawe cyn ymddeol a dychwelyd i fyw yn Aberaeron. Yr oedd yn eisteddfodwr pybyr; bu'n beirniadu mewn eisteddfodau cenedlaethol yn fynych. Am tua 30 mlynedd bu'n cydweithredu gyda J. M. Howell, Aberaeron, i baratoi carol Nadolig i'w chyhoeddi bob blwyddyn yn Cymru (O.M.E.) - y geiriau gan Howell a'r gerddoriaeth gan Roberts; gofalai am gerddoriaeth Cymru a Cymru'r Plant. Ceir carolau o'i waith mewn newyddiaduron hefyd, a chyhoeddwyd llawer ohonynt ar wahân (yng Nghaernarfon, etc.). Fe'i coffeir hyd heddiw fel cyfansoddwr y dôn (i blant ac oedolion) ar y geiriau sy'n dechrau ' Bydd canu yn y nefoedd.' Cyhoeddodd lyfryn ar Owen Glyndwr (Wrexham, 1904, ac argraffiadau eraill); golygodd Awelon o Hiraethog, i (Dinbych, 1908), yn cynnwys detholiad o weithiau barddonol William Rees ('Gwilym Hiraethog'). Ceir llythyrau ganddo yn NLW MS 2810C , NLW MS 2826D , NLW MS 6270B , a NLW MS 7994D , a darn o gerddoriaeth o'i waith (er cof am Syr Owen M. Edwards) yn NLW MS 2119D . Bu farw 20 Rhagfyr 1931, a chladdwyd ef ym mynwent Henfynyw gerllaw Aberaeron.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.