Yn ôl Iolo Morganwg yr oedd o blwyf Llangyfelach, ger Abertawe (N.L.W. MS. 13062 (467)). Un gerdd ganddo yn unig a gadwyd, sef cywydd moliant i Syr Rhys ap Thomas, aelod enwog o deulu Ystrad Tywi.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/