Gellir bwrw ei eni tua 1600, a chawn gywydd o'i waith a ganodd yn 1623. Dywedai ' Iolo Morganwg ' mai ei athro barddol ydoedd Llywelyn Siôn o blwyf cyfagos Trelales. Ef yw'r amlycaf o feirdd Morgannwg yn yr 17eg ganrif, ac yn ôl pob tebyg, gellir edrych arno fel yr olaf ohonynt a oedd yn fardd wrth ei grefft. Canai awdlau a chywyddau i foneddigion Morgannwg, ond a barnu wrth gymaint o'i waith ag a gadwyd, pur anaml yr âi ar deithiau clera i'r siroedd cylchynnol. Nid yw'n bwysig iawn fel bardd, er bod ei awdlau a'i gywyddau'n dangos iddo etifeddu dysg draddodiadol y beirdd, y manylion am gerdd dafod, yr hen eirfa, a'r 'cyfarwyddyd' a'r ystorïau a oedd yn rhan o gynhysgaeth y bardd Cymraeg. Eto, ni chlywid llawer amdano nes i ' Iolo ' ei atgyfodi a'i wneuthur yn un o'r prif ffigurau yn hanes barddol y sir. Yr oedd, meddai, yn un o'r rhai a roesai drefn ar Ddosbarth Morgannwg ar fesurau cerdd dafod fel y ceir ef yn Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain (1829). Mynnai ymhellach mai yng ' Ngorsedd y Bewpyr ' yn 1681 y cadarnhawyd y dosbarth hwn, ac Edward Dafydd yn un o'r penceirddiaid. Nid yw hyn oll ond breuddwyd. Ni wyddys am ddim o'i waith sy'n ddiweddarach na 1665. Claddwyd dau ' Edward David ' ym Margam yn 1678, ac efallai mai ef oedd un ohonynt. Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn ' Llyfr Hir Llanharan ' yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ac y mae casgliad arall yn Llanover MS. B 20. Ceir nifer o gerddi a dadogir ar ' Edward Dafydd ' yn Llanover MS. B 12, ac y mae rhai ohonynt yn ymwneuthur a chyfnod Cromwel a Siarl II. Yn eu plith, cawn gywydd i groesawu'r olaf yn ôl i Loegr, ac y mae'n eglur fod y bardd yn Frenhinwr selog. Tybiodd pawb mai'r bardd o Fargam ydoedd hwn, ond rhaid cydnabod bod yr arddull yn dra gwahanol i ardull y cerddi sydd yn ' Llyfr Hir Llanharan ' ac yn Llanover MS. B 20. Cynnwys yr un llawysgrif gasgliad o gwndidau a dadogir arno. Ceir peth o'r deunydd hwn yn llyfr anghyhoeddedig L. J. Hopkin-James, ' Caniadau Gwent a Morganwg '.
Yr oedd gan y bardd o Fargam fab o'r enw DAFYDD EDWARD. Gwelir ychydig o'i waith yn y llawysgrifau, englynion gan mwyaf.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.