DAFYDD, JOHN a MORGAN (fl. 1747), emynwyr

Enw: John Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: emynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth; Barddoniaeth
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Meibion David John (1698 - 1775) a Margared Richard, ei briod (1692 - 1774); ganwyd John Dafydd yn 1727 ac yr oedd yn fyw yn 1771. Dywedir mai cryddion oeddynt a thrigent yn y Bedw-gleision, Caeo, Sir Gaerfyrddin; cyfarfyddai seiat Fethodistaidd Caeo yn eu cartref. Enwir John yng nghofnodion Trefeca; yr oedd yn gynghorwr ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad Methodistaidd. Disgynnydd o Richard, eu brawd, oedd y Parch. Richard David, Llansadwrn. Ceir nifer o emynau'r ddau frawd gan William Williams, Pantycelyn, yn ei Aleluia, 1747; John biau'r emyn 'Newyddion braf a ddaeth i'n bro,' a Morgan a ganodd yr emyn 'Yr Iesu'n ddi-lai a'm gwared o'm gwae.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.