Ganwyd yn Llwynhendy, 1849, mab Daniel a Margaret Davies. Bu'n myfyrio yn y Graig Academy, Abertawe, ysgol ragbaratoi o dan ofal G. P. Evans, gweinidog York Place, Abertawe, a derbyniwyd ef yn ddiweddarach i Goleg y Bedyddwyr, Llangollen. Ordeiniwyd ef yn 1870 ar dderbyn ohono alwad i fugeilio Penuel, Bangor. Symudodd yn 1877 i gymryd gofal eglwys Everton Village, Lerpwl; yn 1888 dilynodd Nathaniel Thomas yn y Tabernacl, Caerdydd. Ystyrid Charles Davies yn un o bregethwyr arbennig ei gyfnod. Yr oedd yn nodedig am ei dduwiolfrydedd a'i angerdd efengylaidd. Cyhoeddodd gyfrol o bregethau, 1910, ac yr oedd yn cyfrannu'n gyson i gyfnodolion ei enwad yn ogystal a'r Geninen. Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru a Mynwy, a thraddododd ei anerchiad o'r gadair ym Mhenuel, Rhymni, 1899. Bu farw 11 Ionawr 1927.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.