DAVIES, DAVID (1849 - 1926), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur

Enw: David Davies
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1926
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Williams Hughes

Ganwyd ym Mhenstâr, Rhydargaeau, 16 Mehefin 1849. Symudodd ei deulu i Drefforest yn 1858 a bu yntau'n ddisgybl-athro mewn ysgol eglwysig, ond collodd ei le am nad âi i'r moddion yn yr eglwys - bu hyn yn hedyn gwrthwynebiad i'r sefydliad eglwysig ynddo ar hyd ei fywyd. Yn 1866 aeth i Goleg y Bedyddwyr ym Mryste, ac yn 1872 galwyd ef i fugeilio Mount Stuart Square, Caerdydd; ond yn 1877 symudodd i Weston-super-Mare, lle y cyhoeddodd (1883) Echoes from the Welsh Hills. Dug y llyfr hwn iddo gyfeillgarwch C. H. Spurgeon, ac yn 1884 galwyd ef i eglwys Regent's Park. Collodd ei briod a'i blentyn yno; amharwyd ei iechyd; a gadawodd Lundain am Brighton, lle y bu'n weinidog am 21 mlynedd - ond llanwai bulpud Spurgeon yn fynych yn ei absen. Yn Brighton, cafodd brofedigaethau lawer; er hynny, bwriai allan ffrwd o lyfrau a phamffledau. Gwaith mwy sylweddol oedd ei lyfr, Vavasor Powell, 1896. Dychwelodd i Gymru yn 1908, yn weinidog Crane Street, Pontypŵl, ond yn 1909 symudodd i'w ofalaeth olaf, Penarth. Ymdaflodd i'r frwydr ym mhlaid Datgysylltiad â'i holl egni, ond tyfodd cryn gyfeillgarwch rhyngddo a'r esgob John Owen cyn diwedd eu dyddiau. Yn 62 oed, dechreuodd gystadlu yn yr eisteddfod genedlaethol, ac enillodd amryw droeon ar draethodau - un o'r rhain oedd The Influence of the French Revolution on Welsh Life and Literature, a gyhoeddwyd yn 1926. Un effaith o'r cystadlu hwn fu ymdeimlad effro o 'ddiffygion' yr eisteddfod yn ei dyb ef - ymdeimlad a'i gwnaeth yn yn o gefnogwyr eiddgaraf 'Diwygio'r Eisteddfod.' Bu farw 13 Tachwedd 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.