Ganwyd ym Moel-y-frochas, yn ymyl Llanfyllin, Sir Drefaldwyn. Ei rieni oedd yr aelodau cyntaf ymysg y Methodistiaid Calfinaidd yn Rhos-y-brithdir. Cafodd ychydig addysg yn ysgol Morris Davies, Llanfyllin, ond gorfu iddo ddychwelyd adref i weithio ar y tir. Yn fuan gadawodd y fferm a mynd i weithio i chwarel Llangynog, ac oddi yno i waith plwm Rhyd-y-mwyn. Bu am ysbaid yn Lerpwl, yn gwerthu glo, eithr nid oedd dim llwyddiant ar ei fasnach. Wedi hyn ymsefydlodd yn Wrecsam, gan deithio'r wlad i gasglu archebau dros gyhoeddwyr llyfrau o'r Alban. Dilynai'r eisteddfod yn ffyddlon. Cystadlai'n barhaus, yn rhy aml i gynhyrchu dim o wir werth. Enillodd gadair eisteddfod y Gordofigion, Lerpwl, yn 1870, am ei bryddest, ' Goleuni.' Gelwid arno'n aml i feirniadu llên ac adrodd a chanu penillion mewn eisteddfodau lleol a chyfarfodydd cystadleuol. Ychydig cyn ei farw cyhoeddodd Caneuon Iolo Trefaldwyn. Yr oedd yn englynwr medrus ac yn un o'r rhai gorau am lunio beddargraff. Bu'n godwr canu yng nghapel Seion, Wrecsam, am 21 mlynedd. Bu farw 4 Ionawr 1887, a chladdwyd ef ym mynwent newydd Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.