Ganwyd Hydref 1796 (bedyddiwyd 19 Hydref) ym Mhennant-igi (' Pennant Igillt,' yn ôl cofnod yn 1761) Uchaf, Mallwyd, yn fab i dyddynnwr â'i dras o Ffestiniog. Cafodd ei addysg gyntaf mewn ysgolion ysbeidiol yn Ninas Mawddwy a Mallwyd, ac yn yr ysgol Sul. Ni hoffai waith y fferm, ac yn 1819 (gan fwriadu mynd yn ysgolfeistr) aeth i ysgol William Owen ('Gwilym Glan Hafren'), yn y Trallwng, am chwe mis. Wedyn, bu'n ysgolfeistr : ym Mhont Robert, Llanfyllin, Syston (Leicester), Llanfair Caereinion, a Llanfyllin drachefn, hyd 1836. Offeiriad Syston oedd Edward Morgan (1783 - 1869), a oedd ar y pryd yn gweithio ar ei lyfr ar Thomas Charles; Morris Davies a gopïodd y 150 o lythyrau Charles a ddefnyddiodd Morgan. Yn 1836, aeth yn glerc i swyddfa gyfreithiol yn Llanfyllin yr oedd David Williams (1799 - 1869) ynglŷn â hi, a dilynodd y swyddfa yn ei symudiadau i Borthmadog a Phwllheli. O 1844 hyd 1849 cadwai ysgol ym Mhorthmadog; ond yn 1849 symudodd i Fangor i fod yn glerc; bu farw yno 10 Medi 1876. O gofio addysg garpiog Morris Davies, a'i symudiadau mynych yn ystod 50 mlynedd, ni ellir llai na rhyfeddu at swm a rhagoriaeth ei waith llenyddol a cherddorol. Cyfieithai lyfrynnau crefyddol; sgrifennai'n ddiwyd i'r Wasg, yn enwedig i'r Traethodydd (y mae cryn 40 o ysgrifau ganddo yn hwnnw); cyfrannodd nifer mawr o erthyglau i'r Gwyddoniadur a geiriaduron cyffelyb; cyhoeddodd Gofiant Ann Griffiths, 1865, a Chofiant a Gweithiau Daniel Rowland, Llangeitho, 1876. Cyfansoddodd nifer mawr o emynau; ymddiddorai'n neilltuol mewn emynyddiaeth fel pwnc - ysgrifau arno yw llawer o'i waith yn Y Traethodydd; a golygodd bedwar casgliad o emynau. Yr oedd hefyd yn gerddor da, ac yn 1860 cyhoeddodd gasgliad o donau, Jeduthun, 10 ohonynt ganddo ef ei hunan - ar hwn, gweler R. D. Griffith, Hanes Canu Cynulleidfaol Cymru, 1948, 170-1.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.