Mab ydoedd i David Morgan, Pîl (Pyle), Sir Forgannwg, ac yno, yn Tŷ Tanglwst, y ganed ef, a'i fedyddio 7 Tachwedd 1783. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 1802 (B.A. 1806, M.A. 1811). Derbyniodd ficeriaeth Syston, Leicestershire, yn 1814, ac at hynny cafodd ficeriaeth Ratcliffe, gerllaw, yn 1818. Hwylusir ymchwil i hanes y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru o droi ato.
Ei arwr mawr a'i gynddelw oedd Thomas Charles o'r Bala. Ymffrostiai yn ei gyfeillgarwch â Charles, ac yn ei farw ef (1814) collodd ei gyfarwyddwr. Gohebent â'i gilydd yn gyson. Ysgrifennodd A brief history of the life and labours of the Rev. T. Charles, 1828, eithr benthyciodd ar y mwyaf o gofiant gan Thomas Jones, 1816 (gweler hefyd dan Davies, Morris); ac Essays, Letters, and Interesting Papers of the late Rev. Thomas Charles, 1836. Ei ail arwr oedd David Jones, Llan-gan. Ysgrifennodd Ministerial Records or Brief Accounts of the Great Progress of Religion under the Ministry of … Daniel Rowlands of Llangeitho, The Rev. W. Williams of Pant y Celyn, The Rev. D. Jones of Llangan, 1840, Ysgrifennodd gofiant i John Elias (gweler Y Traethodydd, 1845, 112), Short Memoir of the Rev. Henry Philips, late of Coychurch, ei hen athro, a hefyd gofiant yn Gymraeg i'w fam.
Bu farw ym Mehefin 1869; dywed ei garreg fedd (ar gam) ei fod 'yn 93 oed.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.