DAVIES, EDWARD (1827 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., ac awdur

Enw: Edward Davies
Dyddiad geni: 1827
Dyddiad marw: 1905
Rhiant: Catherine Davies
Rhiant: William Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr yn U.D.A., ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn ninas Efrog Newydd, mab i William a Catherine Davies (o Lanuwchllyn, Sir Feirionnydd) a symudodd yn 1829 i Bethel, gerllaw Remsen, talaith Efrog Newydd. Ymbaratodd ar gyfer y weinidogaeth o dan ofal Morris Roberts, Remsen; fe'i hordeiniwyd yn 1853 a bu'n gofalu am eglwys Annibynnol Gymraeg Waterville am 17 mlynedd - bu hefyd am saith mlynedd yn gofalu am eglwysi Annibynnol Saesneg yn Oriskany Falls a Deansboro. Yn 1882 llwyddodd i wneuthur peth yr oedd yn arfaethu ei wneuthur ers blynyddoedd - prynodd Y Cenhadwr, cylchgrawn misol Annibynwyr Cymreig America; symudodd o Waterville i Remsen, lle y cyhoeddid y cylchgrawn, a chymerth ofal eglwysi Peniel a Bethel yno - hen eglwysi Morris Roberts. Rhoes heibio ofalu am Peniel ymhen dwy flynedd, gan gymryd gofal Steuben. Yn 1898 dychwelodd i Waterville a ddaeth hefyd yn lle cyhoeddi Y Cenhadwr hyd iddo orffen cael ei gyhoeddi (1901). Bu farw 8 Rhagfyr 1905.

Trafaeliodd Davies lawer gan ymweld i llu o sefydliadau Cymreig U.D.A. Yn 1866 daeth i Gymru gyda Morris Roberts. Bu'n eiddgar iawn o blaid gwaharddiad diodydd meddwol yn U.D.A. Heblaw ysgrifennu llu mawr o erthyglau i gyfnodolion, cyhoeddodd dri llyfr - Byr Gofiant am y Parch. Llewelyn D. Howell, Utica …(Utica, 1866), Grawnwin Aeddfed … yn cynwys Pregethau gan amryw o Weinidogion yr Annibynwyr yn Nghymru… (Utica, 1867), a Cofiant…Morris Roberts (Utica, 1879).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.