ROBERTS, MORRIS (1799 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddechrau, ac yna gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Morris Roberts
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1878
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddechrau, ac yna gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Llechweddystrad, Llanuwchllyn, ym Mai 1799. Bu am ysbaid yn un o ysgolion y Dr. Daniel Williams a gedwid yn yr 'Hen Gapel,' ond athro anghymwys iawn oedd yno ar y pryd; eithr cafodd ddisgyblaeth Feiblaidd wych gan y Dr. George Lewis. Gan mor wasgedig amgylchiadau ei deulu, gorfu iddo'n 10 oed ddechrau ennill ei fara a bu mewn amryw ffermydd, gan mwyaf yng nghymdogaeth y Bala, nes gwaethygu o gyflwr y wlad ac iddo gael mynd at ei ewythr i Bryn Llin, Trawsfynydd, a hynny am ei fwyd yn unig am amser. Ymunodd â'r eglwys yn Llanfachreth a chafodd gyfle i ymarfer ei ddoniau cyhoeddus. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Chwefror 1820. Yn 1824 symudodd i fyw i Llanarmon Dyffryn Ceiriog, gan gymryd fferm fechan a phregethu 'n gyson. Yn ystod ei drigias yno daeth i drafferth oherwydd ei olygiadau ' ar rai pethau yn athrawiaeth yr Efengyl.' Cyhuddid ef o ogwyddo at y 'system newydd' mewn athrawiaeth, a dilyn John Roberts, Llanbrynmair, ac eraill o weinidogion yr Annibynwyr. Bu ei achos gerbron cymdeithasfa y Bala ym Mehefin 1828, ac ataliwyd ef rhag pregethu y tu allan i'w sir ei hun hyd gymdeithasfa Caernarfon y mis Medi dilynol, pryd yr adferwyd ef. Ym Mehefin 1831 ymfudodd i America, lle yr aethai ei dad yn 1818. Ymsefydlodd yn Utica i ddechrau, ac ordeiniwyd ef yno 7 Awst 1831; symudodd i Remsen yn 1833 i ffermio yn ogystal â phregethu 'n rheolaidd mewn nifer o eglwysi. Yma eto daeth i wrthdrawiad, y tro hwn â rhai henuriaid, ar faterion o ddisgyblaeth eglwysig ac athrawiaeth, a diarddelwyd ef. Troes yntau at yr Annibynwyr a bu'n amlwg iawn yn sir Oneida hyd ei ymddeoliad yn 1871. Bu farw 30 Mehefin 1878 a chladdwyd ef ym mynwent Fairchild Corner, Remsen. Yr oedd ganddo ddawn arbennig fel pregethwr. Ymwelodd â Chymru yn 1866 a chafodd gryn groeso er i'w enw fod dan gwmwl gan amryw am iddo gau ei gapel rhag Samuel Roberts, Llanbrynmair, oherwydd anghytuno ohono â daliadau'r gŵr hwnnw ynghylch caethwasiaeth a rhyfel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.