Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

DAVIES, TIMOTHY EYNON (1854 - 1935), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Timothy Eynon Davies
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1935
Rhiant: Phoebe Davies
Rhiant: Daniel Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Mardy Rees

Ganwyd yn Aberteifi, 1854, brawd J. Ossian Davies. Aeth i'r Coleg Coffa, Aberhonddu, Mehefin 1877. Bu'n gweinidogaethu yn Bethel, Cwmaman, a'r Christian Temple, Glanaman, am bedair blynedd, cyn symud i eglwys (Saesneg) y Countess of Huntingdon, Abertawe. Aeth i Lundain (East Finchley a Finsbury Park), i Elgin Place, Glasgow, Beckenham, a Wood Green, gan ymddiswyddo o'r lle olaf yn 1916. Ysgrifennai'n fynych i Kelt (Lundain) a'r Tyst, a cheir rhagair ganddo i Pwlpud Conwy ('G.R.'), 1888. Bu farw 20 Awst 1935 yn Llandrindod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.