DAVIES, FRANCIS (1605 - 1675), esgob Llandaf

Enw: Francis Davies
Dyddiad geni: 1605
Dyddiad marw: 1675
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Lawrence Thomas

Cafodd ei addysg yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn B.A. (1625) a M.A. (1628); cymerth radd B.D. yn 1640. Daeth yn rheithor Pentyrch a Radyr, 1630, rheithor Llan-gan (gyda Llantrithyd, fe ymddengys), 1638, ac yn ganon S. Andrews yn eglwys gadeiriol Llandaf, 1638. Collodd fywiolaethau Llan-gan a Phentyrch yn ystod y Werin-Lywodraeth am iddo wrthod darllen y Directory, eithr cafodd driniaeth dyner oblegid ei ysgolheictod, ei rinweddau, a ffafr y Colonel Jones, Ffonmon. Caniatawyd iddo 'bedwaredd' gyfran Llan-gan; rhoddwyd les y fywoliaeth honno i'w frawd Maurice. Yn ddiweddarach peidiwyd â thalu'r 'bedwaredd' a gorfu i Davies ei gynnal ei hun trwy gadw ysgol breifat; wedi hynny aeth yn gaplan yng nghartref iarlles Peterborough. Yn 1660 dychwelodd i fywoliaeth Llan-gan ac apeliodd am ddegymau Llantrithyd. Gwnaeth gais hefyd am archddiaconiaeth Llandaf oherwydd iddo golli ei fywiolaethau ac yn herwydd ei ffyddlondeb i achos y brenin; cymeradwyodd Sheldon, archesgob Caergaint, y cais, a gwnaethpwyd Davies yn archddiacon. Cafodd radd D.D. yn 1661. Fe'i cysegrwyd yn esgob Llandaf, 24 Awst 1667, a bu'n byw ac yn cynnal ei lysoedd eglwysig ym maenor esgobaidd Mathern. Ailsefydlodd y llyfrgell yn yr eglwys gadeiriol (fe'i distrywiasid yn ystod y Werin-Lywodraeth); efe hefyd a osododd y gloch fwyaf yn nhŵr yr eglwys gadeiriol. Bu farw 14 Mawrth 1675, a chladdwyd ef o flaen yr allor yn Llandaf; daeth ei garreg fedd i'r golwg ar ôl y cyrch bomio o'r awyr yn 1941.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.