Ganwyd 1 Medi 1844, yn y Garth, ger Rhiwabon. Gadawodd yr ysgol yn 8 oed ac aeth i weithio i waith priddfeini J. C. Edwards, a dringo i fyny i fod yn is-arolygydd yno. Cafodd ei addysg gerddorol yn nosbarth Joseph Owen, ysgolfeistr y Rhos, a ddeuai i Acrefair i gynnal dosbarth. Llafuriodd yn galed i ddysgu cyfundrefn y Tonic Sol-ffa, ac enillodd y radd o G.T.S.C. Cyfansoddodd tua 200 o ddarnau, llawer ohonynt i blant. Bu ei ddarn i leisiau meibion, ' Awn i ben y Wyddfa fawr,' yn boblogaidd, a pherfformiwyd ei gantawdau, ' Joseph ' a ' Charles o'r Bala,' gan lawer o blant Cymru. Wedi marw ' Ieuan Gwyllt ' ef a benodwyd yn olygydd Cerddor y Tonic Sol-ffa. Golygodd hefyd argraffiad o Caniadau y Cysegr a'r Teulu (Gee). Cynhaliodd ddosbarthiadau sol-ffa mewn amryw o gymdogaethau, a gelwid am ei wasanaeth fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd canu. Pregethai gyda'r Methodistiaid, ac yn 1895 ordeiniwyd ef, a symudodd i fugeilio eglwys Smyrna, Plasmarl, Abertawe. Bu farw ganol Hydref 1907, a chladdwyd ef ym mynwent Garth, ger Rhiwabon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.