DAVIES, HUMFFREY ('Wmffre Dafydd ab Ifan'; fl. 1600?-64?), Llanbrynmair, bardd

Enw: Humffrey Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Menai Williams

Fe'i disgrifir weithiau yn glochydd ac weithiau'n glerc y plwyf, sef clerc yr eglwys. Un o'r straeon mwyaf adnabyddus amdano yw honno am Wiliam Phylip, yn canu ei 'Cywydd y Bedd' ar ôl ymweld â bedd Wmffre Dafydd ab Ifan; y mae'n bosibl, fodd bynnag, i'r bardd o Lanbrynmair oroesi'r bardd o Ardudwy, a fu farw yn 1669. Yn ei Montgomeryshire worthies , y mae Richard Williams yn dyfynnu'r cofnod hwn o gofrestr eglwys blwyf Llanbrynmair - 6 Humphredus filius D. D. Evan sepultus fuit 8vo die Julii Anno Dom. 1687' eithr yn awgrymu mai cofnod am farw rhyw blentyn sydd yma ac i'r bardd farw cyn 1663. Sylwer, serch hynny, fod ar gael un peth o'i waith sydd yn ymddangos yn perthyn i'r flwyddyn 1664. Dechreuodd ganu tua 1620 i'r Dr. John Davies, Mallwyd. Caneuon crefyddol eu natur ydyw mwyafrif gwaith Wmffre Dafydd - yn gywyddau, englynion, carolau, cerddi, a dyriau. Y mae ganddo un gân a thua 150 o englynion yn erbyn rhyfel.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.