DAVIES, OWEN HUMPHREY ('Eos Llechid '; 1828 - 1898), chwarelwr, cerddor, ac offeiriad

Enw: Owen Humphrey Davies
Ffugenw: Eos Llechid
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1898
Rhiant: Sarah Davies
Rhiant: David Humphreys Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwarelwr, cerddor, ac offeiriad
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd Medi 1828 yng Nghaerffynnon, Llanllechid, Arfon, mab i David Humphreys a Sarah Davies. Dechreuodd astudio llyfrau cerddorol yn ieuanc, a dysgodd ddarllen cerddoriaeth, a meistroli digon o gynghanedd i gyfansoddi anthem yn 17 oed. Yn 1845 aeth i weithio i chwarel y Penrhyn, a bu yno am 17 mlynedd.

Yn 1848 apwyntiwyd ef yn arweinydd côr eglwys Llanllechid. Yn 1859 fe'i penodwyd yn arweinydd y gymdeithas gorawl (corau eglwysi Llanllechid, Llandegai, Glanogwen, a S. Anne) a chanwyd ganddynt ' Y Meseia ' (Handel) a darnau clasurol eraill. Yn 1862 dewiswyd ef yn arweinydd gŵyl gorawl eglwysig Llandaf, ac arweiniodd wyliau 1864, 1867 ac 1871. Arweiniodd hefyd wyliau cerddorol arch-ddiaconiaeth Caerfyrddin ac Abertawe yn 1867. Trwyddedwyd ef yn 1869 yn ddarllenydd lleyg gan yr esgob Campbell, Bangor, i Ysgoldy, Maesygroes. Yn 1870 penodwyd ef yn athro cerddoriaeth yng ngholeg hyfforddiadol Gogledd Cymru, Caernarfon, a bu yn y swydd am wyth mlynedd.

Cyfansoddodd y gantawd ' Gwarchae Harlech,' a nifer o anthemau rhagorol. Enillodd wobrwyon am gyfansoddi yn eisteddfod Bethesda, 1851, 1852, a 1853. Cyhoeddwyd ei anthemau yn Y Cerddor, Greal y Corau, a'r Gyfres Gerddorol. Cyfansoddodd a threfnodd nifer fawr o donau. Ysgrifennodd i'r cylchgronau cerddorol, o 1861 hyd ei farwolaeth, erthyglau gwerthfawr ar gerddoriaeth, ac i'r Haul, 1886 a 1895, hanes bywgraffyddol o gerddorion Cymreig. Yr oedd yn feirniad craff, a gelwid am ei wasanaeth mewn cyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau.

Ar anogaeth y deon Edwards penderfynodd fynd i'r weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn gurad S. Anne yn 1877, Llanberis yn 1878, Pentir 1888, a'r un flwyddyn daeth yn rheithor Rhiw, Llŷn. Yn 1895 derbyniodd fywoliaeth Llechcynfarwy, Môn, lle y bu hyd ei farw, 11 Awst 1898. Claddwyd ef yn Llanberis.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.