Ganwyd yn y Banwen, Treforus, Morgannwg, 13 Tachwedd 1787. Cafodd fanteision addysg yn fachgen a daeth yn ysgolhaig da. Yn 14 oed dysgwyd ef i chwarae ar y dwlsimer gan ŵr o Lundain a letyai yn ei gartref. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth, a cherfiai ar gerrig beddau gyda'r nos ar ôl darfod ei ddiwrnod gwaith. Yn 24 oed priododd, ac adeiladodd dy iddo ei hunan yn Treboeth ger Abertawe, a galwodd y tŷ yn Godre Parc. Yn 30 oed dechreuodd astudio cerddoriaeth, a daeth yn gerddor lled dda. Cyfansoddodd lawer o anthemau a thonau. Yn Lleuad yr Oes am Mehefin 1827 ymddangosodd y dôn a geir yn ein casgliadau tonau dan yr enw ' Gethsemane ' 9-8, yr hon a drefnwyd yn 8 gan R. H. Pritchard, y Bala. Ceir tonau eraill o'i waith yn Haleliwia Drachefn, Llwybrau Moliant, a'r Caniedydd Cynulleidfaol; dengys ei donau ei fod yn meddu athrylith gerddorol. Bu farw 27 Ebrill 1855 yn Llanelli, a chladdwyd ef ym mynwent Mynydd-bach.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.