Ganwyd 14 Ionawr 1812 yn y Graienyn, ger y Bala. Hanoedd o deulu'r bardd Roland Huw.
Dysgodd gerddoriaeth yn ieuanc, a llafuriodd drwy ei oes gyda chaniadaeth a cherddoriaeth. Yn 1844 dug allan Cyfaill y Cantorion yn cynnwys tua 40 o donau, y rhan fwyaf ohonynt o'i waith ef; ynddo ceir ei dôn ' Hyfrydol,' 8.7.D a gyfansoddodd yn 20 oed. Cyhoeddodd hefyd Y Fasged Gerddorol, sef crynodeb o egwyddorion cerddoriaeth. Cyfansoddodd a chynganeddodd lawer o donau a rhai anthemau, a cheir hwynt yn Haleliwia, 1849, Haleliwia Drachefn, 1855, Llyfr Emynau a Thonau (Stephen a Jones), a chasgliadau eraill. Symudodd i Dreffynnon yn 1880 yn swyddog dan y 'Welsh Flannel Manufacturing Co.'
Bu farw 25 Ionawr 1887, ac yn eglwys St. Pedr, Treffynnon y claddwyd ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.